Os oes rhywbeth gyda chi i'w ddweud, gadewch i mi ei ddweud e drostoch chi.
Rwy'n berson tairieithog sy'n byw ym Madrid ac yn gweithio fel awdur, cyfieithydd, golygydd ac athro. Ar ôl bron i dair blynedd o weithio ym myd cyhoeddusrwydd, rwy nawr yn gweithio'n annibynol ar wahanol brosiectau.
Rwy'n arbenigo mewn cynnwys ar gyfer cyhoeddiadu cyhoeddusrwydd, cynnwys newyddiadurol ar sawl pwnc gan gynnwys masnach a buddsoddi rhyngwladol a gwleidyddiaeth yn Sbaen, a chyfieithu (Sbaeneg-Saesneg/Cymraeg). Wrth gyfieithu rwy'n arbenigo ar ddogfennau yn ymwneud â marchnata, diwylliant a thwristiaeth.
Fel Cymraes yn byw yn Sbaen, rwy'n gallu cynnig nid yn unig gwasanaethau cyfieithu mewn tair iaith, ond hefyd ymwybyddiaeth aml-ddiwyllianol a phrofiad rhyngwladol sydd yn gwella fy ymwybyddiaeth o'r gynulleidfa, naill ai yn Sbaen neu yn y DU.
Gallaf gynnig gwasanaethau yn Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg mewn:
-
Cynnwys ar gyfer cyhoeddiadau busnes (tudalennau gwe, deunydd marchnata, adroddiadau)
-
Gwaith radio a theledu
-
Rheoli prosiect & golygu
-
Cyfieithu
-
Cynnwys newyddiadurol, yn arbenigo ar faterion Sbaeneg
-
Gwersi iaith a hyfforddiant
Dwi'n aelod o The Chartered Institute of Linguists (sefydliad siartredig ar gyfer ieithyddion).