Mae gen i brofiad amrywiol ym maes cyfieithu, gan gynnwys cyfieithiadau o sgriptiau ffilm a dogfen, dogfennau busnes ac gwybodaeth arbenigol o eirfa yn ymwneud â diwylliant, twristiaeth a marchnata.
Rwy'n gallu cyfieithu gyda'r cyfyniadau iaith canlynol: Sbaeneg>Saesneg - Sbaeneg>Cymraeg - Saesneg>Cymraeg - Cymraeg>Saesneg
Gwaith diweddar yn cynnwys:
- Cyfieithu cofnodion cyfarfodydd swyddogol (Saesneg>Cymraeg)
- Cywiro cyfieithadau, testunau addysgiadol.
- Cyfieithu ar y pryd, yn enwedig ar sgrîn.
- Cyfieithu dogfennau cais, gan arbenigo mewn iaith perthnasol i sector elusennau.
- Cyfieithu dogfennau yn ymwneud â strategaeth busnes.
- Cyfieithu datganiadau i'r wasg.
- Cyfieithiadau sgriptiau ffilm i Alicia Produce, S.L. (Sbaen), Montfort Producciones S.L. (Sbaen).
- Cyfieithu o Sbaeneg i Saesneg Los cuadros pintados de Carlos Saura, cyhoeddwyd gan El Gran Caíd, S.L., Madrid.
- Cyfieithu o Sbaeneg i Saesneg El cartel de cine cubano 1961-2004, cyhoeddwyd gan El Gran Caíd, S.L., Madrid. Gellir gweld disgrifiad o'r llyfr yn: http://www.karnobooks.com/cgi-bin/karno/78608.html
- Trawsgrifio a chyfieithu ¿Qué tienes debajo del sombrero?, cynhyrchwyd gan Alicia Produce, S.L., Prif Gynhyrchydd: Julio Medem http://www.juliomedem.org/filmografia/sombrero.html
- Rhan o'r cyfieithiad o Uno por ciento, Esquizofrenia, cynhyrchwyd gan Alicia Produce, S.L., Prif Gynhyrchydd: Julio Medem http://www.juliomedem.org/filmografia/esquizofrenia.html