Mae hyfforddiant a dysgu yn rhan o'm mhroffeil. Mae gen i brofiad helaeth mewn dysgu ieithoedd i oedolion, mewn dosbarthiadau preifat, dosbarthiadau busnes ac yn y brifysgol. Ar hyn o bryd rwy'n cynnig gwersi Saesneg a Sbaeneg. Mae fy null dysgu yn dibynnu ar ymarferion cyfathrebu, dealltwriaeth da o ramadeg a chael hwyl!

Technegau sy'n cael ei defnyddio yn fy ngwersi:

  • Dysgu geirfa gyda flashcards
  • Ymarferion cyfathrebu - chwarae rôl, gweithgareddau grwp, gemau, caneuon
  • Dysgu cyd-destunol - pynciau llosg, newyddion, darllen a deall erthyglau
  • Defnydd aml-gyfryngol, gan gynnwys ymarferion ar-lein.

Fel canlyniad o'm mhrofiadau dysgu, rwy wedi cyd-ysgrifennu llyfr iaith Sbaeneg mewn cyd-destun business a gafodd ei gyhoeddi gan Routledge ym mis Mai 2008.

  • En activo: Practical Business Spanish, gan Esther Santamaría Iglesias a Helen Jones (mwy o wybodaeth)
  • Ymwelwch â safle gwe En activo www.enactivo.info
  • Gallwch hefyd ymweld â blog En activo.
Mae hefyd gen i brofiad hyfforddi mewn cwmnïau a sesiynau hyfforddiant ar sgiliau ymchwil, technegau cyflwyno a thechnegau cyfweliad.